Diwygio’r systemau lesddaliad a chyfunddaliad yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ddiwygiadau i’r system lesddaliad a chyfunddaliad yn dilyn argymhellion yn adroddiadau Comisiwn y Gyfraith a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2020.
Yn benodol, mae’n ceisio barn am:
Ymgynghorodd Comisiwn y Gyfraith yn 2018 a 2019 ar ryddfreinio, yr [hawl i reoli a chyfunddaliad. Cyhoeddwyd a chyflwynwyd eu hadroddiadau i’r Llywodraeth yn 2020. Roedd cyhoeddiadau llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Ionawr 2021 ymateb i nifer o argymhellion yn yr adroddiadau hyn. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru hefyd eu bod yn dymuno gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar weithredu’r rhaglen ddiwygio hon.
Mae llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn awr wedi ystyried argymhellion pellach gan Gomisiwn y Gyfraith ac yn cytuno mewn egwyddor y byddai’r cynigion yma yn cyflawni’r nodau yr ydym wedi eu gosod. Er mwyn cefnogi symud y gwaith hwn ymlaen rydym yn ceisio barn a thystiolaeth bellach ar rai argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith.
Share
Share on Twitter Share on Facebook